
Rhowch gynnig ar ein gwefan newydd!
Rydym am i chi ymuno â’n grw^p cyffrous o brofwyr gwefan newydd fydd yn newid sut y mae artistiaid ac athrawon yn cael hyd i’w gilydd ac yn cydweithredu ar brosiectau anhygoel yng Nghymru.
Mae’n hawdd ymuno a does dim gofyn crebwyll o’r we arnoch chi, dim ond eich bod yn teimlo’n angerddol fod y celfyddydau a dysgu creadigol yn gallu newid y ffordd rydym yn addysgu pobl ifanc.
Bydd y wefan rydym yn ei chreu bron fel rhyw fath o Tinder i artistiaid ac athrawon – cydweddu pobl all gydweithio a bod yn gronfa ddata aruthrol o gyfleoedd celfyddydau mewn addysg i athrawon, artistiaid a chyrff yn y celfyddydau.
Gwerth chweil meddech chi? Y cwbl rydym yn ei ofyn gennych yw rhoi mymryn o’ch amser ac, i dalu’r pwyth, fe gewch gyfle i fod y cyntaf ar y wefan i gynnig cyfleoedd i gydweithredu neu i hysbysebu’r gweithdai, y prosiectau a’r arbenigedd rydych am eu dwyn i’r ystafell ddosbarth.
Ymgofrestrwch yn awr i fod yn un o’r ‘beta-brofwyr’ a rhown wybod i chi beth i’w wneud nesaf.
Ymgofrestrwch yma, ebost (tombeardshaw@mac.com)