
Ydych chi’n frwd ac yn ymroddedig i ddod â’r celfyddydau i ystafelloedd dosbarth, coridorau, maes chwarae a hyd yn oed y neuadd ginio yn eich ysgol?
Rydym ar drywydd Hyrwyddwyr Celfyddydau sydd mewn addysg gynradd, uwchradd ac anghenion arbennig yn Ysgolion Canol De Cymru.
Pa un a ydych chi’n athro cymwys neu’n gynorthwywr addysgu, os ydych yn awyddus i rannu sgiliau, profiad, gwybodaeth arbenigol ac yn anad dim brwdfrydedd ag athrawon ac ysgolion eraill ac i ysgwyddo rôl eiriolwyr cyhoeddus gweithgaredd yn y celfyddydau a phrofi’r celfyddydau mewn ysgolion yn eich cyffiniau agos, byddai’n dda gennym glywed gennych.
Mae A2 Clymu, Rhwydwaith Celf ac Addysg – Canol De yn chwilio am 21 o ‘Hyrwyddwyr Celfyddydau’ i’r rhwydwaith rhanbarthol newydd. Rhown gyllid i ysgolion i wneud iawn am ryddhau’r Hyrwyddwyr hyn a fydd yn treulio cyfnodau byr yn hyrwyddo arfer gorau, yn hyfforddi ac yn cefnogi eraill i fabwysiadu cyrchddulliau tebyg.
Amcan y cynllun Hyrwyddwyr Celfyddydau ydi cynnig arweiniad a chalondid i athrawon a disgyblion fel ei gilydd i ddilyn eu greddf a chymryd rhan mewn gweithgaredd creadigol drwy’r celfyddydau
Bydd disgwyl i bob hyrwyddwr ymrwymo i’r cynllun am flwyddyn o leiaf, ar ôl y fan honno fe’u hanogir i ddal i gyfranogi a bod yn rhan o’r rhwydwaith a’i ddigwyddiadau cysylltiedig a, lle bo modd, rhoddir cyllid a chefnogaeth ond does dim sicrwydd o hyn oherwydd fel y treigla’r rhaglen yn ei blaen recriwtir hyrwyddwyr eto i wella ac i ehangu cwmpas yr wybodaeth arbenigol.