Skip to main content.

Datblygu astudio celfyddyd gyfoes yn yr ystafell ddosbarth 11/1/19

26.01.19
Contemporary art in the curriculum Wales

i Athrawon Cynradd ac Uwchradd

Cliciwch yma i archebu eich tocyn am ddim trwy eventbrite

Cwrs Tridiau:

11 Ionawr 2019 Artes Mundi, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

8 Mawrth 2019 g39, Caerdydd

24 Mai 2019 Chapter, Caerdydd

Mae’r cwrs byr yma’n cefnogi athrawon sy’n meddwl ynghylch sut i gorffori a chynnwys celfyddyd gyfoes yn y maes llafur ac yn yr ystafell ddosbarth. Bydd y sesiynau hyn yn dilyn cyrchddull ymarferol o ran dod â chelfyddyd gyfoes i gynlluniau gwaith, sut i ddechrau edrych ar arddangosfa a lle i ymchwilio ac ehangu gwybodaeth ynghlwm â chelfyddyd gyfoes. Bydd y sesiynau ill tair yn rhoi lle i’r cyfranwyr glywed artistiaid cyfoes sydd â’u cartref yng Nghymru yn sôn am eu harfer, edrych ar arddangosfa o gelfyddyd gyfoes yn ogystal â chyngor ymarferol y gall y cyfranwyr fynd ag ef i’w canlyn a’i ddefnyddio yn yr ystafell ddosbarth. Bydd y sesiynau hyn yn gymorth i greu rhwydwaith rhwng artistiaid, athrawon a chyrff diwylliannol yn y ddinas.

Mae llefydd ar y cwrs am ddim i’w cadw a bydd y rhwydwaith yn eich noddi i ddod, drwy gefnogi cost staff cyflenwi hyd at £150 y diwrnod.

a2connect.eventbrite.co.uk

Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr e-bost

Amdanat ti
Are you a school teacher?
Ym mha iaith fyddai orau gennych i ni gysylltu â chi?