
Bydd y gweithdy dwy ran yma’n canolbwyntio ar wead, gan ystyried sgiliau creu sylfaenol a gludwaith, i archwilio sut gallwn helpu disgyblion i ddatblygu eu perthynas gyda’u creadigrwydd eu hunain ar draws gwahanol ffurfiau ar gelf.
Bydd y sesiwn gyntaf yn canolbwyntio ar fannau cychwyn ymarferol ar gyfer ymchwil, a byddwn ni’n edrych ar waith Joy Labinjo, sydd ag arddangosfa unigol yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd.
Bydd yr ail sesiwn ar-lein yn datblygu’r ymchwil yma drwy gyfres o dasgau ymarferol mewn ymateb i’r gwaith celf.
Cynhelir y cwrs yma gan Holly Davey
Bydd dolen Zoom yn cael ei rhannu â phawb sydd wedi cofrestru ar y cwrs yn nes at y dyddiad.
Rhaglen Dysgu Proffesiynol y Celfyddydau Mynegiannol Gwanwyn 2022
Mae Consortiwm Canolbarth y De yn gweithio gyda phrosiect A2:Clymu i ddarparu rhaglen Dysgu Proffesiynol gyffrous ac amrywiol i athrawon, dan arweiniad artistiaid ac ymarferwyr creadigol. Mae’r rhain wedi’u dylunio i ysbrydoli athrawon ar bob lefel, i feithrin hyder a sgiliau, ac i gefnogi’r gwaith o ddatblygu ymagweddau newydd tuag at addysgu’r celfyddydau mynegiannol, yn unol â’r fframwaith ar gyfer y Cwricwlwm Newydd i Gymru.
Mae tocynnau i athrawon yn ysgolion ardal Consortiwm Canolbarth y De am ddim.
Mae nifer cyfyngedig o lefydd y talwyd amdanynt ar gael i athrawon o ysgolion nad ydynt yn rhan o Gonsortiwm Canolbarth y De.
Archebu nawr