
Bydd y gweithdy dwy ran yma’n canolbwyntio ar dn, a sut mae egwyddorion sgiliau creu marciau yn gallu helpu disgyblion i ddatblygu eu perthynas gyda’u creadigrwydd eu hunain ar draws gwahanol ffurfiau ar gelf.
Bydd y sesiwn gyntaf yn canolbwyntio ar sgiliau arsylwi, a byddwn ni’n defnyddio’r arddangosfa grŵp bresennol yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Rheolau Celf?, fel man cychwyn ar gyfer tasgau ymarferol mewn ymateb i’r gwaith celf.
Bydd yr ail sesiwn yn defnyddio’r ymchwil a gasglwyd ac yn deall sut gallwn ddatblygu’r syniadau yma ymhellach i syniadau unigol.
Cynhelir y cwrs yma gan Holly Davey
Bydd dolen Zoom yn cael ei rhannu â phawb sydd wedi cofrestru ar y cwrs yn nes at y dyddiad.
Mae Consortiwm Canolbarth y De yn gweithio gyda phrosiect A2:Clymu i ddarparu rhaglen Dysgu Proffesiynol gyffrous ac amrywiol i athrawon, dan arweiniad artistiaid ac ymarferwyr creadigol. Mae’r rhain wedi’u dylunio i ysbrydoli athrawon ar bob lefel, i feithrin hyder a sgiliau, ac i gefnogi’r gwaith o ddatblygu ymagweddau newydd tuag at addysgu’r celfyddydau mynegiannol, yn unol â’r fframwaith ar gyfer y Cwricwlwm Newydd i Gymru.
Mae tocynnau i athrawon yn ysgolion ardal Consortiwm Canolbarth y De am ddim.
Mae nifer cyfyngedig o lefydd y talwyd amdanynt ar gael i athrawon o ysgolion nad ydynt yn rhan o Gonsortiwm Canolbarth y De.
Archebu nawr