
Bydd y ddwy sesiwn ar-lein 90 munud yma’n cefnogi athrawon uwchradd i ystyried sut maen nhw’n gweithio gyda phobl ifanc i greu cysylltiadau rhwng celf gyfoes a bywyd bob dydd. Bydd y sesiynau’n datgelu sut gall themâu a chyd-destunau i’w trafod yn y dosbarth celf annog cydweithio trawsddisgyblaethol, a dealltwriaeth ddyfnach o gysylltiadau traws-gwricwlaidd. Bydd y sesiynau’n defnyddio dull dysgu cyfunol, gyda chlipiau fideo byw, cyflwyniadau PowerPoint, ynghyd â thasgau ymarferol gan ddefnyddio chwiliadau ar-lein. Bydd y sesiynau’n annog y cyfranogwyr i ystyried ffyrdd o wahodd eu disgyblion i wneud cysylltiadau ac i berchnogi rhannu gwybodaeth a dysgu. Bydd gan y sesiynau ofod i fyfyrio a thrafod.
11 & 18 Mis Mawrth 3.30pm- 5.00pm
Mae’r ail sesiwn yn dilyn y gyntaf, felly bydd angen i athrawon fynychu’r ddwy. Bydd tasg ymarferol yn cael ei gosod i’w chyflawni rhwng y sesiynau.
Cynhelir y cwrs yma gan Holly Davey
Bydd dolen Zoom yn cael ei rhannu â phawb sydd wedi cofrestru ar y cwrs yn nes at y dyddiad.
Rhaglen Dysgu Proffesiynol y Celfyddydau Mynegiannol – Gwanwyn 2021
Mae Consortiwm Canolbarth y De yn gweithio gyda phrosiect A2:Clymu i ddarparu rhaglen Dysgu Proffesiynol gyffrous ac amrywiol i athrawon, dan arweiniad artistiaid ac ymarferwyr creadigol. Mae’r rhain wedi’u dylunio i ysbrydoli athrawon ar bob lefel, i feithrin hyder a sgiliau, ac i gefnogi’r gwaith o ddatblygu ymagweddau newydd tuag at addysgu’r celfyddydau mynegiannol, yn unol â’r fframwaith ar gyfer y Cwricwlwm Newydd i Gymru.
Mae nifer cyfyngedig o lefydd y talwyd amdanynt ar gael i athrawon o ysgolion nad ydynt yn rhan o Gonsortiwm Canolbarth y De.
Archebu nawr