
Ffocyswch ar y broses nid dim ond yr hynny â chynhyrchir, ar yr allbynnau dysgu yn lle’r gwaith celf ar gyfer y waliau, ac fe gewch y gorau o unrhyw brosiect celfyddydol.
Wrth ddarparu cyfres o wersi Celf yn lle ceisio ffitio popeth mewn i un brynhawn, byddech wir yn gweld y budd i’ch dysgwyr, gan eu hannog i ddatblygu sgiliau personol hanfodol megis dyfalbarhâd a disgyblaeth.
Llwythwch y blog hwn i lawr fel taflen adnoddau.
Anogwch arbrofi ac archwilio gyda’r gweithgareddau cychwynnol yma:
Gadewch amser i ddysgwyr trafod a rhannu eu gwaith gyda’r dosbarth cyfan neu gyda phartner. Anogwch dysgwyr i feddwl yn fyfyriol gan ddisgrifio beth wnaethon nhw, yn ogystal â beth maent yn hoffi a sut maent yn teimlo am eu gwaith eu hun. Anogwch nhw i roi a derbyn adborth, gan roi’r geirfa allweddol i helpu nhw i strwythuro eu brawddegau a’r sgwrs.
Erbyn y wers olaf gallwch anelu at roi dewis rydd i’r dysgwyr i greu darn o waith celf o amgylch y thema. Er enghraifft ar ôl astudio ac arbrofi gyda palette lliw un artist o Gymru (megis Kyffin Williams, Peter Prenderghast neu Rhiannon Williams), anogwch eich dysgwyr i greu darlun o’r tirwedd wedi seilio ar y lliwiau hynny. Newidwch y cyd-destun i roi her iddyn nhw, er enghraifft yr olygfa o’r ystafell ddosbarth. Mae hyn yn sicrhau bod y gwaith yn unigryw a gwreiddiol.
Trwy wneud proses o arbrofi, mae modd creu cyfres o waith hardd iawn, gan gyflwyno’r plant i gelf abstract hefyd (yn enwedig ble maent wedi ‘llenwi tudalen’ yn gyfan gwbwl). Cyfunwch y darnau arbrofol yma ochr-wrth-ochr i greu collage llawn manylder (gallâi eu harddangos ar y wal fel ‘cen’ draig er enghraifft). Galluogâi hyn y cyfle i gynnwys gwaith pob unigolyn, a dathlu ceisio syniadau newydd a chymryd risgiau.
Os oes gennych galeri neu man arddangos hyblyg yn eich dosbarth e.e. bwrdd magnetig, gall eich dysgwyr dewis pa elfen o’r gwaith mae nhw eisiau arddangos. Gallech eu hannog i ddewis gwaith o’r camau datblygu ac arbrofi os mae nhw wedi mwynhau y rannau yma o’r broses yn arbennig.
Apiau i geisio gyda’ch dysgwyr
Defnyddiwch ap cyfryngau cymdeithasol diogel i rannu gwaith y plant arlein (ceisiwch see-saw er enghraifft). Os yn defnyddio twitter ac instagram sicrhewch ddefnyddio dolen yr artist ei hunain, gan eu bod yn aml yn ymateb hefyd! Mae’r defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol yn galluogi sgyrsiau am gelf weledol i barhau tu allan i’r dosbarth – naill ai adref neu gyda ffrindiau. Gallech hyd yn oed annog dysgu cymheiriaid rhwng ysgolion trwy partneru a rhannu gwaith celf ar gyfryngau cymdeithasol.
www.dramatoolkit.co.uk/drama-games
www.dramanotebook.com/drama-games
Dyma’r cyfres o 15 adnodd ‘Sgiliau Syml’, sy’n cyd-fynd gyda fideo ar-lein o’r un enw.
Mae hwn yn #1 o 3 adnodd celf gweledol a fideo.
Mae Hyrwyddwyr Celfyddydau A2 Clymu yn athrawon sy’n gweithio gyda ni i rannu eu profiad ac ymarfer da gydag ysgolion/athrawon eraill yn yr ardal.
Pa un a ydych chi’n athro sydd ar drywydd rhywun creadigol i rannu sgiliau ac ysbrydoliaeth â’ch disgyblion … neu’n rhywun creadigol sydd ar drywydd athrawon a disgyblion all fod ar eu hennill o’ch cyfraniad: cofiwch GREU yn ogystal â CHWILIO am gyfleoedd yn yr Plwg.