
Os carech chi weithio gydag actorion yr RSC ac ymarferwyr addysg, hogi eich sgiliau dysgu Shakespeare, cael adnoddau am ddim i ddysgu Romeo and Juliet, a hwyrach hyd yn oed cofrestru eich disgyblion yn rhan o ŵyl drama ieuenctid fwya’r byd, daliwch i ddarllen!
Gweithio gyda’r RSC a chloddio i Romeo and Juliet
Yn ystod ein diwrnod dysgu proffesiynol ddydd Llun, 4 Mawrth, o ddeg tan bedwar o’r gloch yn Neuadd Dewi Sant Caerdydd, byddwn yn chwilio testun Romeo and Juliet. Fe gewch chi’r cyfle i weithio gydag actorion ac ymarferwyr addysg yr RSC ac i gael awgrymiadau a strategaethau i’w dwyn yn ôl i’r ystafell ddosbarth.
Mae llefydd ar y cwrs am ddim i athrawon yn Ne Cymru Ganol a bydd y rhwydwaith yn eich noddi i ddod drwy gefnogi cost staff cyflenwi hyd at £150 y diwrnod.
Cewch wybod rhagor a chadw lle yma
Bachwch adnoddau am ddim
Mae’r bobl hyfryd yng Ngŵyl Ysgolion Shakespeare wedi rhoi adnodd am ddim i ni i’w rannu cyn ein diwrnod datblygiad proffesiynol parhaus a’u gŵyl (gweler isod). Sampl sydd yma o’u cynllun gwaith cyflin â chwricwlwm newydd Cymru ar Romeo and Juliet (gwersi un a dau). Mae wedi’i fwriadu ar gyfer oedrannau cynradd hŷn/uwchradd iau ac mae’n cynnig uwcholwg ar y cynllun, cynlluniau gwersi, cysylltau â’r cwricwlwm, cardiau cymeriadau, disgrifiadau cymeriadau, pwyntiau’r stori a digwyddiadau’r stori gyda dyfyniadau iaith allweddol.
Llwytho i lawr y gwersi Romeo and Juliet (Saesneg yn unig)
Awch di-ben-draw am Shakespeare? Mae yna wahoddiad i chi i Ŵyl Drama Ieuenctid Fwya’r Byd – Gŵyl Shakespeare i Ysgolion!
Cyn pen naw mis (Hydref/Tachwedd 2019), bydd ysgolion drwy hyd a lled de Cymru yn dod i lwyfannau theatrau proffesiynol lleol, o flaen awditoria dan eu sang, i berfformio eu gweddau eu hunain ar ddramâu Shakespeare yn rhan o’r Ŵyl Shakespeare i Ysgolion flynyddol a redir gan Sefydliad Ysgolion Shakespeare. A chaiff eich disgyblion chi fod yn rhan ohoni!
Mae’r Ŵyl yn cynnwys:
Cewch chi wybod rhagor ar wefan yr Ŵyl neu o roi caniad i 02076 011800 i gael sgwrs ag un o’r Swyddogion Allgyrch Ysgolion.