Skip to main content.
Tuesday October 9th, 2018

Stafell celfyddydau mynegiannol Julia: ‘lab profi’ ar gyfer dysgu creadigol a chydweithredol, ar draws y cwricwlwm

Creative Classroom Wales

Ac ysgolion drwy hyd a lled Cymru yn graddol hwylio ar gyfer y cwricwlwm newydd, mae Julia Walker, athro yn Ysgol Gynradd Parc Jenner yn y Barri, Bro Morgannwg, ymhell ar y blaen. Mae’n defnyddio stafell celfyddydau mynegiannol newydd yn ‘labordy’ i roi prawf ar syniadau a chyrchddulliau i helpu i blannu creadigedd yn yr ysgol drwyddi draw.

Julia yw’r athro CPA (Cynllunio, Paratoi ac Asesu) yn yr ysgol, yn ogystal â chyfrifoldeb am TGCh a’r celfyddydau mynegiannol. Mae hefyd yn un o Hyrwyddwyr Celfyddydau A2:Clymu.

Mae’n egluro: “Pan ddois i’r ysgol dair blynedd yn ôl fy nghyfrifoldeb oedd helpu i ddatblygu TGCh a chreadigedd yr ysgol- Erbyn fy ail flwyddyn, sylweddolais fod yna gynifer o bethau creadigol tan gamp y gallem eu gwneud drwy TGCh felly roeddwn yn gallu canolbwyntio ar ddefnyddio TGCh yn artistig ac yn y celfyddydau mynegiannol.”

Felly sut y daeth y stafell i fod?

“Y tymor dwetha wnaeth y syniad o stafell celfyddydau mynegiannol daro fy mhen i, o gael gwybod bod yna stafell wag ar gael cyn bo hir yn yr ysgol. Rhoes y prifathro i mi’r brîff o helpu i ddatblygu creadigedd ar draws y cwricwlwm, a syniad y stafell gelfyddyd yw cynnig canolbwynt i’r gwaith yma.”

Dim ond toc cyn gwyliau’r haf y cafodd Julia wybod bod ganddi’r stafell, a phan gafodd wybod na doedd dim arian i dalu am ailbeintio’r stafell fe’i gwnaeth ei hun, ar ôl oriau ysgol, gyda help llaw rhai o’i chydweithwyr.

Sut y mae’n gweithio?

“Does gen i ddim byrddau i bob plentyn eistedd wrthyn nhw ond mae hynny’n fwriadol. Drwy raglen dreiglo y mae’r disgyblion yn dysgu – felly mewn unrhyw wers, gallai fod yna grŵp bach o ddisgyblion yn gwneud collage gyda’i gilydd, rhai’n gweithio ar ffilmiau stop-symud – gwneud i bethau difywyd ddod yn fyw, bydd grŵp arall yn gwneud TGCh creadigol efallai ar gyfrifiaduron. Ac wedyn yr wythnos nesaf, fe ffeirian nhw, a derbyn cyngor gan y grwpiau eraill fel y mae pob un yn magu arbenigedd mewn maes neilltuol.

“Yr hyn sy’n wych ynghylch y cyrchddull dysgu mwy creadigol, ar sail prosiectau, ydi eich bod yn gallu camu’n ôl, unwaith y byddwch wedi cychwyn beth maen nhw’n ei wneud, a gadael iddyn nhw arwain.

“Weithiau, unwaith y byddaf wedi’u rhoi nhw i gyd ar ben y ffordd, byddaf yn cael fy mod yn ddiangen! Anaml roedd hynny’n digwydd cynt. Ond cyn belled â’u bod nhw’n deall beth mae gofyn iddyn nhw’i gyflawni, maen nhw i gyd yn ymddiddori o hyd, ac yn astud.

“Rwyf wedi gwahodd athrawon eraill o’n hysgol i bicio i mewn ac maen nhw’n gallu gweld bod beth rydym yn ei wneud yn golygu dysgu gan gymheiriaid, meithrin timau, a bod y plant yn ymddiddori i’r carn.”

Beth yw manteision bod â stafell ar wahân?

“Y fi yw’r arbenigwr cerddoriaeth – soddgrythor – ac roedd ein hofferynnau i gyd yn cael eu cadw i fyny’r grisiau yn y neuadd. Pan oeddwn am ddysgu’r Cyfnod Sylfaen, roedd rhaid i mi fynd â’r holl offerynnau a’r offer celfyddyd i adeilad cwbl ar wahân.

“Nawr mae gen i’r holl offerynnau a’r offer celfyddyd yn y stafell yma gyda mi. Mae gen i adran gelf lle mae llond gwlad o ddeunyddiau celf, paentiau, deunyddiau collage, wedyn adran gerdd lle mae’r holl offerynnau.

“Ar hyn o bryd y stafell sy’n gwneud y gwahaniaeth i’r myfyrwyr, mae’n ennyn y disgwyliad hwnnw. Maen nhw’n gwybod ei fod yn lle i ddysgu’n gydweithredol.

“At hynny roedd cael fy stafell fy hun yn rhoi lle i mi brofi’r problemau a llyfnhau’r anawsterau i gyd cyn iddo gael ei dreiglo i aelodau eraill y staff yn yr ysgol.”

 Oes rhaid cael stafell ar wahân?

“Mewn byd delfrydol oes, ond mae modd cyflwyno’r math yma o ddysgu yn eich stafell ddosbarth eich hun, felly os yw’r athrawon sy’n darllen hyn heb foethusrwydd stafell ar wahân, popeth yn iawn. Y peth pwysicaf yw sylweddoli bod modd i sawl gwahanol beth fod ar fynd ar yr un pryd a gwaith graenus yn deillio ohono er hynny. Os rhywbeth, gewch chi waith mwy graenus yn y modd yma.”

Beth fyddwch chi’n ei wneud yn y dosbarth?

“O ddilyn y cyrchddull yma, yr hwyluswr ydych chi yn hytrach na’r athro. Mae gofyn i chi ddysgu’r sgiliau’n gyntaf cyn y gallan nhw eu cymhwyso i’r pwnc. Wedyn byddaf yn dweud wrth y disgyblion y byddan nhw’n dod yn arbenigwyr yn y maes hwnnw, ac maen nhw’n ymateb yn wirioneddol dda i hynny. Mae’n rhoi i’ch dosbarth fwy o lawnder profiad o’r un pwnc neu thema, pa un ai gwyddoniaeth neu ddaearyddiaeth.

“Yr wythnos o’r blaen roedd Dosbarth Un yn gwneud archarwyr, ac yn yr wythnos gyntaf roedden nhw’n codi tŵr uchel iawn â Lego bychan bach, oedd yn greadigol ac yn lles i sgiliau motor manwl, ac yn yr ail wythnos cyflwynais elfen fathemateg drwy ddechrau chwilio patrymau, defnyddio gwahanol liwiau.

“Yr wythnos yma fe fyddan nhw’n dal i fynd, ond bydd un grŵp yn defnyddio darnau Lego mwy, un arall yn creu stori, un arall yn gwneud printio gyda phaentiau, ac rwy’n mynd i gael ganddyn nhw feddwl am ddilyniannau patrymau. Wedyn rwy’n cysylltu â’r athro dosbarth, i roi gwybod iddo beth rydym wedi’i wneud.”

Pam mae’r cyrchddull yma’n well?

“Beth sy’n fy ysbrydoli i, ac yn cadarnhau fy marn bod hyn yn gweithio, yw adwaith y plant. Maen nhw’n dod ata i yn y cae chwarae ac yn dwued, ‘Ydyn ni gyda chi heddiw?’. Maen nhw’n dotio ato. Dyw e ddim run fath â dosbarth celf cyfan, y mae rhai pobl ifanc yn ei gael yn anodd, mae’n debycach i fod yn fforwyr, maen nhw’n cael cyfle i bori mewn llond gwlad o wahanol sgiliau cyn iddyn nhw fynd i chwilio a dechrau gweithio ar gynnyrch terfynol.

“Mae’n hyfryd gweld cymaint maen nhw’n ymddiddori. Maen nhw’n ysu am ddod i’r dosbarth yma. Maen nhw’n teimlo’n gadarnhaol ynghylch dysgu, yn credu bod pawb yn gallu cyflawni.”

Sut y mae bod yn un o Hyrwyddwyr Celfyddydau A2:Clymu yn gaffaeliad?

“Mae bod yn Hyrwyddwr Celfyddydau yn gyfle tan gamp i gyfarfod llawer o hyrwyddwyr celfyddydau eraill o bob cwr o Gymru a chlywed beth maen nhw’n ei wneud. Mae pawb wedi gwneud rhywbeth ysbrydoledig yn eu maes eu hunain, ac nid artistiaid yn unig monyn nhw – er enghraifft, mae yna un sy’n arbenigwr gwyddoniaeth. Pobl yn taflu syniadau piau hi, a dweud ‘rhowch gynnig arni’r ffordd yma’, dyna’r unig ffordd y gallwn ni ddysgu gan ein gilydd. A byddwn yn mynd i ysgolion hefyd i fod yn fentoriaid, felly byddwn yn rhannu rhagor o syniadau a phrofiadau.”

Y cwricwlwm newydd – cychwyn yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach

“A’r cwricwlwm newydd i fod i ddechrau yn 2022, bydd gofyn i ni i gyd newid y ffordd rydym yn dysgu am fod yna gymaint o waith ar draws y cwricwlwm, ac felly mae’r celfyddydau wrth graidd hyn.

“Mae’r flwyddyn nesa’n flwyddyn dda i ddod yn Hyrwyddwr Celfyddydau yn eich ysgol, yn enwedig gan fod Estyn yn argymell atal dros dro’r cylch arolygu am flwyddyn. Gallai athrawon drefnu pnawniau neu ddiwrnodiau â thema, neu brosiectau â thema a chanddyn nhw lond gwlad o wahanol weithgareddau, TG greadigol, celfyddyd, crefft, cerddoriaeth, lle maen nhw’n chwilio hanes, daearyddiaeth, a gwyddoniaeth drwy’r celfyddydau.

“Mae’n adeg ddelfrydol, gan fod gennych rwydd hynt i roi cynnig ar bethau a’u rhoi ar brawf. Fy nghyngor i fyddai, rhowch gynnig arni! Ar ôl pum mlynedd ar hugain, rwy’n dysgu mewn ffordd wahanol ac wrth fy modd!”

Fyddai’n dda gennych chi gael hyd i ymarferwr creadigol i gydweithio â chi yn eich ysgol? Gewch chi hyd i’ch cymar delfrydol yn adran gyfleoedd A2:Clymu (‘yr App’ chwedl ninnau!).

 Fyddai’n dda gennych chi drefnu i rywun fel Julia – neu hyd yn oed Julia ei hun – ddod i’ch ysgol chi a gweithio ochr yn ochr â chi i helpu gyda chyrchddulliau mwy creadigol o ran y cwricwlwm? Darllen rhagor am fentoriaid o Hyrwyddwyr Celfyddydau.

Mwy oddi wrth y blog A2:Clymu

Cofrestrwch i gylchlythyr A2:Clymu

Y cylchlythyr a2: Connect yw'r ffordd hawsaf o barhau i fod yn gyfoes ar bob peth a2: clymu

Amdanat ti
Ydych chi ' n athro ysgol?
Ym mha iaith fyddai orau gennych i ni gysylltu â chi?