
Ai athro ydych? Ai artist ydych?
A oes gennych ddiddordeb mewn archwilio ffyrdd newydd o gydweithio i ddatblygu llythrennedd a rhifedd disgyblion drwy’r celfyddydau.
Hoffwn eich cyflwyno i…
Celc – pecyn gwybodaeth y celfyddydau, llythrennedd a rhifedd
Mae Celc yn newydd sbon ac arddengys sut y gall y celfyddydau ddarparu cyfleoedd sbardunol a chyfoethog i helpu athrawon o ran diwallu gofynion y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd.
Bwriedir Celc ar gyfer athrawon sy’n dysgu Sylfaen uwch, CA 2 a 3 a darpara syniadau i ysbrydoli, dolenni defnyddiol a chanllawiau ymarferol i gwrdd â gofynion y Fframwaith.
Celc o adnoddau
Mae’n cefnogi athrawon ac artistiaid i ddefnyddio’r celfyddydau i fod yn effeithiol yn yr ystafell ddosbarth. Cefnoga athrawon i ddatblygu llythrennedd a rhifedd drwy dynnu ar adnoddau celfyddydol yn fwy effeithiol a dychmyglon. Nod Celc yw annog cydweithio, cynyddu dealltwriaeth artistiaid o sut y gall eu gwaith gefnogi’r Fframwaith a dealltwriaeth athrawon o gyfraniad nodweddiadol a gwerthfawr artistiaid at ategu a gwella addysgu.
Os ydych yn athro sydd am wybod rhagor am gyfraniad y celfyddydau neu artist sydd am wybod sut i gydweithio ag ysgolion, mae popeth yng Nghelc o ran cydweithio rhwng y ddwy garfan.
‘Mae Celc yn gasgliad cynhwysfawr o adnoddau mawr eu hangen i artistiaid sydd am weithio yn ysgolion Cymru. Mae’n sicrhau bod gan artistiaid becyn gwybodaeth hanfodol o ran sut y gall eu hymarfer fod yn berthnasol i’r cwricwlwm. Mae’n arweiniad sy’n ateb y cwestiwn ‘pam’ yn ogystal â ‘sut’.
– David Powell, Cyfarwyddwr-Reolwr Gwasanaeth Cerdd a Chelf Upbeat Cyf
Mae ystod eang o adnoddau i athrawon gan gynnwys:
Ni waeth beth yw’ch pwnc neu’ch celfyddyd, mae’r Pecyn Gwybodaeth hwn yn cynnwys llu o syniadau ysbrydoledig, dolennau defnyddiol ac arweiniad ymarferol i gefnogi eich dosbarth i ddiwallu gofynion y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd mewn ffyrdd newydd, ymgysylltiol a hwyliog.
Rhannwch eich straeon drwy ddefnyddio #DysguCreadigol