Clywsom gyflwyniadau gwych a chyfarfod llawer o athrawon a chreadigolion campus yn y digwyddiad pedwar diwrnod i ddathlu dysgu creadigol drwy’r celfyddydau a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru.
Roedd yna ormod o lawer ar fynd i ni allu rhoi adroddiad manwl, felly rydym yn rhannu nodiadau byrion a chasgliad o negeseuon trydar o fore’r trydydd diwrnod.
Gallwch lwytho i lawr gyflwyniadau a dogfennau am y cwricwlwm newydd yn: https://llyw.cymru/paratoi-ar-gyfer-y-cwricwlwm-newydd
Diane Hebb, Cyfarwyddwr Ymgysylltu ac Ymgyfranogi, Cyngor Celfyddydau Cymru, gychwynnodd y bore â chyflwyniad ysbrydoledig am bosibiliadau a photensial y cwricwlwm newydd i sector y celfyddydau.
Fe’n cymhellodd ni i ddathlu’r ffaith bod y Celfyddydau Mynegiannol yn un o feysydd cyfartal y chwe Maes Dysgu a Phrofiad (MDPh), ac meddai “Mae’r cyfleoedd yn wych, bydd gofyn i ni addasu beth rydym yn ei gynnig i gwrdd ag anghenion ysgolion a’r cwricwlwm newydd, ond rydym yn atebol i gwrdd â’r her honno.”
Wedyn eglurodd Carys Pugh D’Auria, Pennaeth Maes Dysgu a Phrofiad ar gyfer y Celfyddydau Mynegiannol, Llywodraeth Cymru, sut y bu athrawon ac artistiaid yn creu ar y cyd MDPh y Celfyddydau Mynegiannol, a’r cwricwlwm drafft canlynol a gyhoeddir er mwyn ymgynghori ar 30ain Ebrill, a dangos y ffilmiau isod.
Cymraeg:
Saesneg:
Mae pob MDPh yn cynnwys:
1. Eglurhad o sut y mae’n cefnogi’r pedwar diben. Mae’r pedwar diben wrth graidd y cwricwlwm newydd ac yn datgan y dylai’r cwricwlwm gefnogi ein plant a’n pobl ifanc i fod yn:
2. Datganiadau a seiliau rhesymegol ‘Yr Hyn sy’n Bwysig’ – sydd gyda’i gilydd yn disgrifio’r agweddau hanfodol ar ddysgu sydd yn yr MDPh
Gallwch weld datganiadau o’r Hyn sy’n Bwysig yn y cyflwyniad ymhellach ymlaen
3. Yr wybodaeth, y sgiliau a’r profiadau yn ymwneud â phob datganiad o’r Hyn sy’n Bwysig
4. Camau Cynnydd a Chanlyniadau Cyflawniad
Wedyn rhoes Vanessa McCarthy, Prifathrawes, Ysgol Gynradd Brynnau a Phennaeth Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol, uwcholwg ar gwricwlwm newydd y Celfyddydau Mynegiannol, gyda chymorth cynrychiolwyr o ysgolion arloesol. Dyma ei chyflwyniad:
Yn olaf bu cryn dipyn o ddadlau bywiog, yn drafodaethau wrth y bwrdd a sesiwn adborth agored cyn i Diane Hebb ddwyn y bore i ben.