Skip to main content.
Monday June 3rd, 2019

Yr athro Mark yn Llanisien Fach yn rhannu awgrymiadau celf ei brosiect planedau penigamp

Planets school arts project

Gweler y fideo Instagram yma. Cewch wybod mwy am y digwyddiad rhwydweithio thema-Planed i athrawon yma (25/6/19, Caerdydd)

Blewyn o ysbrydoliaeth, llond gwlad o chweonglau a digonedd o roliau o’r arf dirgel – tâp papur brown – a’r canlyniad oedd yr adeiladweithiau trawiadol welwch chi yn y delweddau uchod ac isod. Mark Barrett, athro yn Llanisien Fach ac un o’n Hyrwyddwyr Celfyddydau, a’i ddisgyblion greodd y planedau penigamp yma’n rhan o brosiect yn nhymor yr haf. Daliwch i ddarllen i gael gwybod sut.

Mae Mark yn dysgu yn ysgol gynradd Llanisien Fach ers deunaw mlynedd. Dros y blynyddoedd bu’n gyfrifol am amrywiaeth o bynciau, ond yn sgìl archwiliad sgiliau gan y prifathro bum mlynedd yn ôl aeth Mark i arbenigo mewn Celf y flwyddyn wedyn.

Beth rydych chi’n ei wneud yn Llanisien Fach?

“Ar hyn o bryd rwy’n dysgu celf drwy hyd a lled yr ysgol yn athro arbenigol, yn ymorol am amser Cynllunio, Paratoi ac Asesu (CPA), dysgu celf.

“Mae gennym ystafell gelf benodol ac mae athrawon yn dod heibio i gynnal eu sylfaen sgiliau neu i’w gwella. Maen nhw’n cael cyfnod wedi’i amserlennu pan fyddan nhw’n gweithio ochr yn ochr â mi, felly byddwn yn addysgu’r gelf rwy wedi’i chynllunio fel tîm, ac wedyn maen nhw hefyd yn cyflenwi peth o’r cwricwlwm, felly maen nhw’n dal i addysgu celf.

“Ar hyn o bryd rydym yn gryf iawn yn y celfyddydau gweledol, ond o edrych tuag at y dyfodol a’r newidiadau yn y cwricwlwm, mae arnom eisiau cyflenwi amrywiaeth ehangach o gelfyddydau.”

Allwch chi sôn wrtha i am eich Prosiect Planedau?

“Roedd athrawon yr ail flwyddyn yn chwilio am gyd-destun i’w gwaith dysgu yn nhymor yr haf. Dyma nhw’n cychwyn â llyfr o’r enw ‘The Aliens are Coming’ gan Colin McNaughton. Mae’n cyflwyno, mewn odl, aelodau rhyfedd a rhyfeddol o lynges estron sy’n benderfynol o orchfygu’r Ddaear ond yn y diwedd maen nhw’n troi rownd ac yn mynd yn eu holau i’w planed eu hunain. Fe benderfynon ni fwrw golwg ar beth ddigwyddai petai’r estroniaid wedi cyrraedd.

“Gwnaeth athrawon yr ail flwyddyn y prosiect yn rhan o’u cwricwlwm a chan mai fi oedd dyn y celfyddydau roeddwn yn chwilio am wahanol ffyrdd o ddod yn rhan ohono. Fe daron nhw ar y syniad o greu cartrefi estroniaid, ac wedyn feddylion ni, drwy wneud y blaned, y gallen ni osod y cartrefi arni, a chael dinasoedd o gartrefi estroniaid. Roedd hyn yn cynnwys sgrifennu creadigol, llythrennedd a rhifedd, meddwl creadigol o ran gweithio allan sut y byddai’r estroniaid yn mynd adre’n ôl, gweithio tîm a datrys problemau a llawer ar ben hynny.

Sut y gwnaethoch chi’r Blaned?

“Greon ni ‘Buckyball’, sef saernïaeth fel caets sy’n edrych fel pêl-droed ac sydd wedi’i ffurfio o 20 o chweonglau a 12 o bentagonau.

“Gwnaeth y plant gartrefi estroniaid a’u gludo ar y blaned. Fe ddaethon nhw â bocsys cardbord i’r ysgol ac agoron ni’r rheini i gyd a’u troi’r tu chwith allan fel bod yr wynebau print ar y tu mewn, a wnaeth y plant eu peintio nhw.

“Wedyn gyfunon nhw’r gwahanol focsys a silindrau ’ma – cryn dipyn o fathemateg ar fynd yma – a’u peintio nhw i greu eu dewis gartref. Wedyn eu glynu nhw ar y blaned. Roedd gennym gartrefi â’u pennau i lawr, a phlant yn gorwedd ar y llawr ac ar ben ysgolion yn glynu’r tai’n sownd! Wedyn unwaith roedd y tai wedi’u glynu, beintion nhw’r tir a’r môr o gwmpas y blaned.

“Am fod gennym stafell benodol, byddai grwpiau o bymtheg o blant yn dod i mewn am awr ar y tro – i’w cadw nhw’n astud. Fe weithion ni arno am bythefnos, a hyd yn oed gwahodd eu rhieni neu eu gofalwyr i ddod i’w weld.

“Rydym wrthi’n ei ailadrodd, yn creu un arall i Ŵyl Rhiwbeina, a’r tro yma’n gweithio gyda phlant hŷn ac maen nhw’n gwneud y blaned eu hunain.”

Beth oedd amserlen cwblhau’r gwaith?

“Roeddwn yn gallu gweithio gydag athrawon a disgyblion yr ail flwyddyn am bythefnos, a chawn fod gyda nhw pan oedden nhw’n gwneud mathemateg neu wyddoniaeth neu ddaearyddiaeth.

“I ddechrau, cyn i ni gychwyn, roedd disgyblion y chweched flwyddyn ynghlwm, yn gweithio ar amcanrifo hyd ac ochrau’r chweonglau a’r pentagonau. Buom yn bwrw golwg ar sut mae amcanrifo cylchedd sffêr, a ddefnyddion ni fathemateg hynny i weithio allan faintioli’r glôb. Fe weithiodd i’r dim!”

Beth sy’n eich ysbrydoli chi?

“Mynd y tu hwnt i be’ sydd i’w weld yn rhesymol piau hi. Rwy’n hoffi gwthio’r terfynau, peidio â gwneud be’ sy’n amlwg, meddwl be’ allen ni’i wneud, a mynd ymhellach.

“Fy syniad gwreiddiol oedd cael lamplenni papur â throellau weiren, a rhoi papier-mâché drostyn nhw. Pan fethais â chael run, sylweddolias fod rhaid i mi wneud sffêr, ac ymchwilio i’r peth, a meddwl, pam cyfyngu ar ei faint, wnawn ni un anferthol y gall pawb gyfrannu ato.

“Heb fod yn annhebyg i JFK, a ddwedodd ein bod wedi mynd i’r lleuad nid am ei bod yn hawdd ond am ei bod yn anodd! Rydyn ni’n gwneud cryn dipyn o hynny – nid bod yn gymhleth er ei fwyn ei hun, ond i roi tipyn o’r ‘Argian’ ynddi. Mae gofyn i blant gofio pethau, rydych chi am iddyn nhw gofio cerrig milltir, ac i’w hatgofion dyddiau ysgol fod yn rhai da.”

Pa fudd, yn eich tyb chi, gafodd y plant ohono?

“Rhoddodd werth gwirioneddol ar eu gwaith. Yn hytrach na bod yn rhywbeth allen nhw fynd ag ef adre i’w ddangos i’w rhieni neu’u gofalwyr, roedd hwn yn fawr ac roedd eu rhieni neu’u gofalwyr yn dod i’r ysgol i’w weld. Wnes i ffilm a defnyddio cerddoriaeth The Planets gan Gustav Holst, a mynd ar Instagram fel y gallai’r plant ei rhannu â’u teuluoedd. Rhoddodd hyn gyfle iddyn nhw ymfalchïo go iawn, gweld ei werthfawrogi a’i wylio.”

Sut mae’n cysylltu â’r cwricwlwm newydd a’r cyrchddull dysgu creadigol?

“Mae yna ddigonedd o gyfleoedd i weithio’n annibynnol (creu’r cartrefi), gweithio ar y cyd (penderfynu ymhle i roi’r cartrefi), a chwilio syniadau drwy greadigedd. At ei gilydd mae gan y prosiect lawer o gysylltiadau â gweithio trawsgwricwlaidd. Wnaethon nhw rai o’r fideos eu hunain, roedd yna gysylltiadau â’r fframwaith Llythrennedd a Rhifedd – siarad a gwrando, sgrifennu creadigol am yr estroniaid a’u cartrefi, mathemateg (llond gwlad o fesur ac amcangyfrif), ac roedd yn dwyn i mewn hylltod o sgiliau’r celfyddydau megis defnyddio lliw, siâp, cyfuno siapiau, a gweithio 3D.”

Fydd athrawon eraill yn dysgu pethau y gallan nhw fynd ymlaen â nhw yn ysgol wedyn?

“Yn bendant, am eu bod nhw’n gweithio ochr yn ochr â mi, ac yn gweld y mathau o strategaethau rwy’n eu defnyddio. Un o hanfodion dysgu celf yw ffordd neilltuol o reoli’r stafell ddosbarth, y gall pawb ddysgu ganddo. Gwneud dewisiadau ynghylch deunyddiau, sut maen nhw’n cael eu trefnu yn y stafell ddosbarth, rhoi dewis ehangach o lawer o adnoddau i blant fel y gallan nhw ddatblygu eu syniadau mewn amrywiaeth o wahanol gyfeiriadau a chael llais o ran sut olwg fydd ar eu gwaith. Aeth Cynorthwywyr Addysgu’r ail flwyddyn i ffwrdd ac adeiladu llong awyr yn eu stafell ddosbarth a defnyddio’r syniad saernïo cardbord, gan ddefnyddio tâp papur gludiog.

“Mae gan stafell gelf awyrgylch gwahanol i stafelloedd eraill yn yr ysgol, sy’n cymell creadigedd. Ac os cewch chi hynny mewn gwers Saesneg, da o beth, siawns.

“Rydym yn ennyn diddordeb pobl ifanc ac yn cael ganddyn nhw weithio cyn pen dim, wedyn fel yr athro rydych yn mynd atyn nhw ac yn codi sgwrs â nhw ynghylch be’ maen nhw’n ei wneud. Mae yna ddigonedd o le i holi, i ofyn ‘beth petai’, ac mae yna holi pur hergar ar fynd yn y stafell gelf. Hwyrach bod pynciau eraill braidd yn ffeithiol, ac mae rhywun yn cael ei ddal mewn cwestiynau sy’n eitha ffeithiol, ond mae celf yn ymwneud fwy â barn a theimladau, sy’n gwbl wahanol.”

Oes yna unrhyw beth wedi newid yn sgìl y math newydd yma o ddysgu?

“Mae celf y plant yn well o lawer nag y byddai. Y peth sydd wedi newid yw bod celf mewn ysgolion yn unigol iawn. Er ein bod yn gweithio ar brosiectau tynn, mae gen i’r rheol yma: os ydi plant yn methu nabod eu darn o waith eu hunain maen nhw wedi methu. Mae gofyn iddyn nhw fod wedi bwrw iddi go iawn ac iddo fod yn gofiadwy iddyn nhw. Os daliwch ddarn o gelf i fyny, maen nhw nid yn unig yn gwybod ai nhw piau’r gwaith, ond hefyd pwy arall.

“Mae gofyn i chi roi’r cyfle i ddisgyblion ddangos be’ maen nhw’n gallu’i wneud – unwaith y gwnewch chi hynny, maen nhw’n gwneud pethau gwych.

“Rydym yn rhoi gwerth ar waith pawb. Ar ddiwedd pob gwers byddwn yn sôn am waith pawb, ac yn dewis darnau o waith ac yn dweud be’ rydym yn ei hoffi a be’ allasai pobl ei wneud yn wahanol. Nid a ydi’n llun gwych o benglog dafad yw’r canolbwynt fyth, ond a ydyn nhw wedi defnyddio’r sgiliau roeddem yn canolbwyntio arnyn nhw’r wythnos honno, a pha mor dda roeson nhw’r sgiliau hynny ar waith. Mae’n bwysig meddwl yn feirniadol ynghlwm â be’ fuon nhw’n ei ddysgu – nod y dysgu a’r meini prawf llwyddo.”

Beth yw’ch pennaf awgrymiadau chi: beth all pobl ei ddysgu gennych?

1. Meddwl am ba sgiliau rydych am i’r plant eu dysgu. Penderfynu ar y sgiliau, penderfynu be’ rowch chi i’r plant i gychwyn, ond ceisio osgoi bod â’ch bryd ar sut olwg fydd arno yn y diwedd.

2. Rhoi dewis i’r plant. Fe wnaethon nhw ddewisiadau o ran y raddfa roedden nhw’n gweithio arni a gwneud gwaith haniaethol. Defnyddiodd un plentyn ddarn o bapur 50cm sgwâr a defnyddiodd un arall ddarn o bapur 10cm sgwâr, felly roedd y plant yn gwneud dewisiadau ynghylch pob mathau o bethau – maint y papur, y paent, neu’r penseli. Nid peintiad mae pawb yn ei wneud o anghenraid, oni bai mai peintio yw’r sgil. Ond unwaith y bydd ganddyn nhw’r sgil mae gofyn iddyn nhw gael y cyfle i’w roi ar waith.

3. Fy mhennaf awgrym ymarferol i yw – tâp papur brown! Y ffordd gysyllton ni’r modelau wnaethon ni oedd defnyddio tâp papur brown gludiog. Mae’n anodd peintio ar Sellotape a gall y deunydd o dano ddangos. Mae papur brown gludiog yn datrys y broblem honno ac mae’n asio’n wirioneddol gryf. Fy awgrym arall yw hongian y rholiau o’r nenfwd ar linyn, rhag iddo ddisgyn i ddŵr a difetha’n lân!

 


*Crëwch a chael hyd i gyfleoedd i’ch ysgol a’ch disgyblion, neu eich busnes creadigol*

Pa un a ydych chi’n athro sydd ar drywydd rhywun creadigol i rannu sgiliau ac ysbrydoliaeth â’ch disgyblion … neu’n rhywun creadigol sydd ar drywydd athrawon a disgyblion all fod ar eu hennill o’ch cyfraniad: cofiwch GREU yn ogystal â CHWILIO am gyfleoedd yn yr adran Cyfleoedd ar wefan A2:Clymu.


 

Mwy oddi wrth y blog A2:Clymu

Cofrestrwch i gylchlythyr A2:Clymu

Y cylchlythyr a2: Connect yw'r ffordd hawsaf o barhau i fod yn gyfoes ar bob peth a2: clymu

Amdanat ti
Ydych chi ' n athro ysgol?
Ym mha iaith fyddai orau gennych i ni gysylltu â chi?