Skip to main content.

Fy Nhaith gyda’r Celfyddydau Mynegiannol ac Addysgu Rheiddiadur Kay Smith, Pennaeth Drama yn Ysgol Gyfun Pencoed

03.09.19
Kay Smith Pencoed Comprehensive

Yn Ysgol Gyfun Pencoed, ers rhai blynyddoedd bellach mae gan yr athrawon gyrchddull cyfannol, ymdoddol o ran addysgu a dysgu. Yn yr erthygl yma, a gyhoeddwyd gyntaf gan Gonsortiwm Canol y De, mae Kay Smith, Pennaeth Drama, yn rhannu eu profiadau o ddysgu dan arweiniad disgyblion, ‘addysgu rheiddiadur’, a sut y daeth disgyblion ac athrawon yn “feddylwyr beirniadol, a ganddyn nhw feddyliau creadigol a chwilfrydig”.

Dw i wedi bod yn defnyddio’r dull ‘Addysgu Rheiddiadur’ yn fy stiwdio ac ystafell ddosbarth Ddrama am y 22 mlynedd diwethaf ac mae fy myfyrwyr yn gyfarwydd iawn â hyn erbyn hyn ac yn dewis beth maen nhw’n ei ddysgu, pryd maen nhw’n ei ddysgu a sut maen nhw’n mynd ati. Wedi’r cyfan, nid yw Drama erioed wedi cael ei gynnwys yn y Cwricwlwm Cenedlaethol fel pwnc arwahanol. Ni fu canllawiau na disgwyliadau. Mae athrawon Drama, sydd yn aml yn gweithio ar eu pennau eu hunain yng Nghymru, yn gyfarwydd iawn â gweithio’n fyrfyfyr a’i wneud yn berthnasol i’w dysgu ac ymateb i destunau cyfoes a chyfredol. Roedd darllen adroddiad Donaldson am y tro cyntaf a bod yn Ysgol Arloesi ar gyfer y Celfyddydau Mynegiannol yn hynod o gyffrous i Ysgol Pencoed ac i minnau ar lefel bersonol. Roedd gan Ysgol Pencoed enw da am y ‘Celfyddydau’ ac roedd yn hawdd gweld dylanwad Dorothy Heathcote arnaf a’m syniadau fy hun am ysbrydoli dysgwyr yn gallu ffitio’r dull newydd hwn ar gyfer y cwricwlwm. Er mwyn ychwanegu at y cyffro, roedd fy nau bwnc, Drama a Cherddoraeth, yn cael eu hystyried yn rhan hanfodol o’r cwricwlwm newydd ac roeddwn wrth fy modd gweld sut gallwn gyfuno’r holl feysydd disgyblaeth a sgiliau o fewn y Maes Dysgu a Phrofiadau (MDPh) newydd yn y Celfyddydau Mynegiannol. Roedd yn glir i mi fod cyfuniad o Gerddoriaeth, Celf, Drama, y Cyfryngau a Dawns yn gallu cael eu haddysgu o fewn yr un wers, gyda thema gysylltiol yn rhoi modd i ddysgwyr drosglwyddo sgiliau a chydweithio mewn modd mwy realistig. Mae hyn, wedi’r cwbl, yn adlewyrchu’r diwydiannau creadigol a’r byd gwaith creadigol, er i mi ddysgu’n gyflym bod y dull integredig hwn yn gwbl wahanol i’r rhan fwyaf o syniadau ysgolion Arloesi eraill.

Yn Ysgol Pencoed, rydym wedi bod yn gweithio ar gwricwlwm cyfunol yn y celfyddydau ers tair blynedd erbyn hyn, ac mae’r Celfyddydau Mynegiannol yn cael ei addysgu i Flwyddyn 7, 8 a 9. Fel MDPh, penderfynasom beidio ag ‘addasu’ yr hyn roedd gennym yn barod. Beth oedd y pwynt? Gofynnodd ein Pennaeth Cynorthwyol, Catherine Edwards, i mi ddechrau datblygu syniadau ar gyfer y MDPh newydd yn y Celfyddydau Mynegiannol yn syth ar ôl mynd i gynhadledd lansio’r ysgolion Arloesi yn Llandudno yn Nhymor y Gwanwyn 2016, ac erbyn y mis Medi roedd ein staff yn y Celfyddydau Mynegiannol wedi dechrau cyflwyno gwersi i Flwyddyn 7 a oedd yn cynnwys yr holl ddisgyblaethau, ac nid eu pynciau unigol yn unig. Roeddem ymhell ar flaen y gad yn nhermau gwaith datblygu, a theimlwn fod rhai o’r staff yn nerfus iawn i ddechrau arni, ac mae hynny’n ddealladwy. Roedd ein Pennaeth Celf, Helen Williams, yn gallu gweld yr heriau roeddem yn ein hwynebu ond roeddwn yn meddwl y byddai’n “ddiddorol, creadigol ac yn gyfle i weithio gydag adrannau creadigol”.

Fodd bynnag, Helen fyddai’r un gyntaf i ddweud bod pryderon ganddi ynglŷn â’r newidiadau anferth o’n blaenau. “Roeddwn yn poeni am y llwyth gwaith llethol ac na fyddai’r sgiliau rydym wedi eu haddysgu mewn gwersi Celf erioed yn mynd i fod mor goeth ym Mlwyddyn 7, 8 a 9 oherwydd i ni newid y Cynllun Gwaith i weithio’n wahanol trwy ddefnyddio dull dysgu cyfunol.”

Doedd dim ysgol Arloesi arall wedi dechrau ar lefel ystafell ddosbarth ar y pwynt hwn, felly doedd dim model i’w ddilyn. Beth roeddem ni i fod i wneud? Beth os oedd wedi mynd o’i le? Oes rhaid i ni wneud popeth? oedd rhai o’r cwestiynau gofynnodd rhai pobl i mi. Ers dechrau’r daith hon, dw i wedi clywed gan ffynonellau amrywiol dro ar ôl tro: “Es i’r Brifysgol am bedair blynedd i addysgu Cerddoriaeth neu Gelf, pam byddwn i eisiau addysgu rhywbeth arall? Dw i wedi bod yn addysgu ers ugain mlynedd ac mae’n iawn fel y mae”. Ond mae’r ateb yn syml.

Mae amser yn newid. Mae addysg yn newid. Mae angen i Athrawon yng Nghymru fod yn barod am y newid. On’d yw newid yn beth da ynddo’i hun? Mae hyn wedi gweithio hyd yn hyn yn Ysgol Pencoed oherwydd bod y staff sy’n rhan o’r gwaith wedi croesawu’r newid, ac i’r athrawon hynny sydd ag ugain mlynedd o brofiad, mae wedi tanio a rhoi egni newydd iddynt yn yr ystafell ddosbarth. Mae Helen, sydd wedi addysgu Celf yn
Ysgol Pencoed am 24 mlynedd yn myfyrio “rydym wedi cael cyfarwyddyd rhagorol yn yr ysgol ac mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar yr agwedd at y MDPh.”

Mae’n wych bod Helen yn teimlo fel hyn, gan fy mod yn deall yn llwyr y gallai fod yn brofiad brawychus gorfod newid pethau pan fydd cymaint o bwysau eraill yn yr ysgol, gan gynnwys y gofyniad i roi lefelau ym Mlwyddyn 9 o hyd, a’r ffaith bod TGAU dal yn bodoli fel pynciau arwahanol. Rydym ar flaen y gad yn Ysgol Pencoed, rydym eisoes wedi dechrau mynd i’r afael â’r materion hyn trwy gynnwys gwersi Meistrolaeth ym Mlwyddyn 9 i ddisgyblion sydd eisiau mynd ymlaen i astudio Cerddoriaeth, Drama, Celf neu’r Celfyddydau ar gyfer TGAU. Yn y dyfodol, byddwn yn croesawu TGAU yn y Celfyddydau Mynegiannol, efallai lle gallai dysgwyr ddewis llwybrau gwahanol ar gyfer eu taith ddysgu.

Sut mae dull cyfunol yn gweithio ar lawr y dosbarth?

Mae’r Pedwar Diden wrth wraidd y newid. Dw i ddim yn athrawes Drama erbyn hyn. Dw i’n addysgu’r Celfyddydau Mynegiannol ond dw i’n paratoi gwersi sy’n datblygu dysgwyr uchelgeisiol, galluog, cyfranwyr creadigol mentrus, dinasyddion moesegol, gwybodus ac yn bwysicaf oll i mi, unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywydau cyflawn fel aelodau gwerthfawr o’r gymdeithas.

Yn fy ngwersi, mae dysgwyr yn edrych ar waith Celf ac yn trafod y defnydd o liw, persbectif, cysgodi a mynegiant. Efallai byddaf yn ychwanegu darn o Gerddoriaeth ac mae’r dysgwyr yn cysylltu naws ac awyrgylch y gerddoriaeth i’r llun tra’n adnabod yr offer a thonyddiaeth. Yn dilyn hyn, gyda chais gan athrawon o “beth allwn ni ei wneud gyda’r gweithgareddau cychwynnol i archwilio ein gwaith ar ‘Freeze Frames’ a ‘Marking a moment’?” ac i ffwrdd â nhw! Dw i’n gwrando ar eu syniadau nhw. Mae’r wers yn datblygu o’u mewnbwn. Mae angen ychydig bach o arweiniad arnyn nhw weithiau, ond mae’r dull hwn wedi ei ddatblygu’n dda ym Mlwyddyn 8 a 9 erbyn hyn, ac mae angen llai a llai o fewnbwn gan yr athrawon. Ddoe, o lun yn dangos merch unig yn eistedd wrth orsaf drefnau, creuodd un grŵp o ddisgyblion Blwyddyn 7 ddilyniant o symiadau yn dangos gwir ddealltwriaeth o emosiwn a’r defnydd o lefelau. Roeddent yn defnyddio’r gerddoriaeth a gafodd ei chwarae ar gyfer eu theatr corfforol, gyda sylw cywir i amseru a rhythm, ond roedd eu perfformiad yn dangos eu bod yn deall mynegiant ac ystum wynebol. Doedd dwy o’r merched ddim eisiau dawnsio. Gofynnais iddynt beth roeddent
eisiau ei wneud. Dywedodd un fod gwell ganddynt arlunio, roedd y llall yn hoffi Saesneg a darllen. Roedd y perfformiad ar y diwedd yn cynnwys cerdd a oedd yn mynegi meddyliau’r ferch yn yr orsaf drenau, ac arluniad pensil a oedd bron yn union yr un peth â’r gwreiddiol ond gyda llythrennau ar hyd llawr yr orsaf. Sganiais y llun yn gyflym a’i roi ar y taflunydd tu ôl i’r merched a oedd yn dawnsio. Roedd y canlyniad yn emosiynol ac yn gwneud i rywun feddwl. Meddyliodd y dysgwyr am gymaint o gwestiynau ar ôl y perfformiad. “Pam roedd y symudiadau’n cydamseru pan oedd ar ei phen ei hun ac yn teimlo’n unig?” “Gan bwy oedd y llythyrau?” Aeth y cwestiynau pwysig mawr ymlaen i hysbysu ac ysbrydoli’r wers nesaf. Dim ond un grŵp oedd hwn. Mewn cornel arall, roedd bachgen swil a thawel iawn yn chwarae dilyniant cordiau syml ar ei gitâr. Dywedodd wrtha i mai dyna oedd yr unig gân roedd yn ei gwybod. Anogais ei ffrind i ofyn cwestiwn mawr am y tempo, gan i ni geisio archwilio’r term cerddorol hwnnw yn nhermau ein thema ‘Emosiynau’. “Beth sy’n digwydd os ydych yn ei arafu a’i chwarae’n fwy tawel?” Gwnaeth y gitarydd yn union fel y gofynnodd. “Mae’n gwneud i mi feddwl bod rhywun yn aros am rywbeth, fel y ferch yn y llun pan fyddwch yn chwarae fel ‘na” oedd ymateb ei ffrind. Roedd hyn wedi effeithio arnaf. Doedd y ddau fachgen hyn ddim wedi bod yn barod i gyfrannu hyd yn hyn eleni, a dim ond dechrau gwneud cynnydd ar ein camau dilyniant newydd yn y Celfyddydau Mynegiannol. Anogais y bechgyn i drafod beth gallent ei wneud nesaf ond gofynnais iddynt feddwl am ffordd o gynnwys geiriau. Wrth ddychwelyd atynt deng munud yn ddiweddarach, roeddent wedi dweud wrthyf nad oeddent eisiau canu a oedd yn ateb amlwg, felly roeddent wedi ysgrifennu ymson a fyddai’n cael ei adrodd dros fersiwn arafach newydd o’r gân. Aeth ymlaen i ffurfio syniad ar gyfer rhan o ffilm newydd, syniad roedd ganddynt am y ferch ar yr orsaf drenau ac yn y wers nesaf gwnaethant rhaghysbyseb ffilm yn iMovie o’r ffilm newydd o’r enw “Ei Cham Nesaf”. Mewn dwy wers, roeddent wedi cwmpasu drama, cerddoriaeth, celf, dawns a chynhyrchiad cyfryngau. Dw i ddim yn arbenigwr ym mhopeth ond dw i’n fodlon dysgu gyda a chan fy nisgyblion.

Addysgu rheiddiadur

Felly, beth yw ‘Addysgu Rheiddiadur?’ Mae’r teitl ei hun wedi gwneud i lawer o gydweithwyr wenu, wrth i mi geisio esbonio bod athrawon drama yn yr 80au yn cael eu gweld yn ‘eistedd ar y rheiddiadur yn y neuadd, yn yfed coffi a gwylio dosbarth yn yn chwarae ‘wink murder’ neu ryw fath o gêm debyg i dorri’r iâ’.

Fodd bynnag, mae ‘Addysgu Rheiddiadur’ yn rhan hanfodol o’r addysgeg i mi a’r staff drama erbyn hyn. Rydym yn gwylio. Rydym yn arsylwi. Ond mae hyn ond yn digwydd ar ôl i’r wybodaeth a’r ffeithiau gael eu ‘rheiddio’ ac mae’r myfyrwyr wedi cymryd perchnogaeth dros eu tasgau a’u dysgu eu hun. Mae angen iddynt gael eu harwain trwy’r sgiliau a’r technegau, ond gellir gwneud hyn trwy eu hymchwil eu hun a thasgau dysgu gwrthdro.

Wedyn, mae’r hud yn digwydd. Mae’r amser arbennig hwn yn cynnwys sgiliau pwysig fel meddwl yn feirniadol a datrys problemau, cynllunio a threfnu, creadigrwydd ac arloesi, hunanfyfyrio a mireinio; maen nhw i gyd yn rhannau annatod o’r Pedwar Diben newydd yn y cwricwlwm Dyfodol Llwyddiannus newydd.

Yn y bôn, wrth hyrwyddo dysgu annibynnol, rydym yn annog ac yn galluogi ein myfyrwyr i hunangyfeirio o ran eu profiadau dysgu, ac i gael mwy o annibyniaeth a hunanreolaeth dros eu dysgu. I mi, dyma’r ‘hyn sy’n bwysig’; y datganiadau trosfwaol a’r penawdau sy’n arwain y dull cwricwlaidd newydd.

Y peth pwysicaf yw bod y dull dysgu ehangach hwn yn llawer mwy cynhwysol o ran anghenion a chryfderau’r holl blant, gyda’r pwyslais ar ddathlu cyflawniad i’r holl blant ym mhob cyfnod, yn hytrach na hyrwyddo cystadlu anfwriadol rhwng plant sy’n gweithredu ar lefelau amrywiol. Mae credu bod pawb yn gallu cyflawni yn ganolog i’r modd rydym yn asesu cynnydd yn y Celfyddydau Mynegiannol yn Ysgol Pencoed. Mae croesawu’r ffaith bod pawb yn wahanol ac mae sgiliau a chryfderau gwahanol ganddynt wedi newid yr awyrgylch yn fy ystafell ddosbarth yn gyfan gwbl. Dw i ddim yn arlunydd gorau’r byd, ond mae galluogi plentyn i arlunio wedi helpu i ddatblygu fy mherthynas gyda’r plentyn hwnnw, a’u hannog i hyrwyddo eu cryfderau i’w cyfoedion, ac yn y pen draw bydd y darlun yn sbarduno darn o ddrama neu gerddoriaeth, felly mae pawb yn elwa!

Yn ogystal â’r dull rheiddiadur, rydym yn aml yn canslo’r amserlen ddydiol i gynnal Diwrnodau Trochi. Mae’r rhain yn hanfodol o ran cynllunio wrth i’r dysgwyr feddwl am y cwestiynau mawr ac mae’r staff yn eu cynllunio y tymor wedyn. Fel arfer, mae thema neu ffocws pendant gan Ddiwrnodau Trochi. Roedd Alice in Wonderland yn sbarduno cwestiynau fel “pam roedd hi’n dilyn y gwningen pan oedd e’n ddieithryn?” ac “ydym ni’n defnyddio holl rannau ein hymennydd?” Roedd y Diwrnod Diwydiant yn cynnwys dysgwyr yn gweithio mewn pum gweithdy gydag arbenigwyr o’r diwydiant yn cynnwys coreograffydd proffesiynol, dylunydd goleuo llwyfan, artist graffiti, cyfansoddwr caneuon ac artist. Roedd dau o’r darlithwyr ymweliadol o ysgolion a cholegau lleol eraill. Roedd un yn gyn-ddisgybl. Mae angen i ysgolion fod yn ddewr ac yn greadigol gyda’u syniadau ar gyfer dysgu a chael mynediad at gefnogaeth ac arbenigedd o’r ardal leol yn ogystal ag o fewn yr ysgol. Mewn Diwrnod Trochi Pontio Blwyddyn 6 yn dod i fyny o’r enw “Pan fydda i’n tyfu i fyny”, bydd yr holl ysgolion cynradd lleol yn cymryd rhan mewn gweithdai sy’n cael eu cyflwyno gan staff o’r Celfyddydau Mynegiannol ond hefyd gan athrawon Dylunio a Thechnoleg, Daearyddiaeth, Hanes a Saesneg. Mae gan yr holl staff sgil maen nhw’n gallu ei gynnig i’r Celfyddydau Mynegiannol. Mae’r athro Dylunio a Thechnoleg yn gweithio ar ddyluniadau set a phropiau ar gyfer Matilda ac mae’r athro Daearyddiaeth yn arwain gweithdy castio ar gyfer ffilm a llunio bwrdd storïau.

A sôn am “addysgu rheiddiadur”, mae ein Pennaeth, Mr Edward Jones, yn aml yn cyfeirio at “ddisgyblion rheiddiadur”, sef y dysgwyr hynny sydd yn y cefndir yn aml, ac nid ydynt yn tynnu sylw atyn nhw eu hunain o wers i wers. Mae’r Celfyddydau Mynegiannol yn gwneud y dysgwyr rheiddiadur hyn yn weledol eto. Mae’n datblygu eu hunanhyder, eu gwydnwch a’u gallu i gydweithio. Rhannodd Edward y canlynol gyda fi ar Twitter yn ddiweddar: “Ni fydd Maes Dysgu a Phrofiadau’r Celfyddydau Mynegiannol yn creu mwy o actorion, dawnswyr na cherddorion proffesiynol o angenrheidrwydd, ond bydd yn creu meddylwyr beirniadol, sydd â meddwl creadigol a chwilfrydig, a fydd gwir yn gwerthfawrogi celf trwy gydol eu bywydau.”

Mae ‘disgyblion sy’n addysgu disgyblion’ yn bwysig iawn i mi yn fy adran. Dyw mentora gan gyfoedion ddim yn rhywbeth newydd, ond mae disgyblion chweched dosbarth yn arwain gwersi i’r blynyddoedd is yn ystod eu cyfnodau rhydd. Maen nhw’n rhedeg ymarferiadau Blwyddyn 11 fel rhan o’r Dystysgrif Sgiliau a chyfarwyddo cynyrchiadau’r ysgol is sy’n codi arian ar gyfer prif sioe’r ysgol. Mewn gwersi yn yr ysgol is, mae dysgwyr yn cymryd eu tro i greu ac arwain gweithgareddau dechrau gwersi, gosod targedau gwaith cartref ac awgrymu datblygu dysgu blaenorol. A bod yn onest, os ydych yn ymweld â’r stiwdio – ac mae pob croeso i chi ddod – efallai byddwch yn meddwl ‘beth mae hi’n ei wneud mewn gwirionedd?’ Mae hynny’n iawn gen i. Gorau po leiaf. Yn fy marn i, arwain yw dyletswydd y disgyblion, ac nid yw’r athrawon yn bodoli er mwyn eu bwydo.

Mae Rhian Jenkins, ein Pennaeth Cerddoriaeth a chydlynydd MATh yn Ysgol Pencoed, yn gallu gweld manteision y dull penagored hwn, ond yn gwybod bod rhaid i hyn gael ei reoli a’i strwythuro’n ofalus hefyd. “Ers i mi fod yn addysgu’r Celfyddydau Mynegiannol, rydym wedi gweld gwelliant mawr o ran lefalau llafaredd y dysgwyr, ac maen nhw’n gallu siarad am oriau ac oriau am ystyron mwyaf dwys a dwfn yr ysgogiad – roedd wedi bod yn ysbrydoledig cael gwrando arnynt.” Mae rheoli hynny’n gallu bod yn her, ond mae’n iawn gwyro o’r cynllun weithiau a rhoi modd i’r dysgu ddatblygu o drafodaeth a arweinir gan y disgybl, yn hytrach na chynllun a ddyfeisiwyd gan yr athro.

Felly, beth yw’r cam nesaf i ysgolion yng Nghymru wrth ddatblygu’r Celfyddydau Mynegiannol? Byddwn yn pwyso arnoch yn drwm i ddechrau gwneud rhywbeth! Ers 2016, mae nifer o ysgolion wedi ymweld â ni, ac mae’r rhan fwyaf wedi bod yn frwdfrydig iawn ac yn barod i wneud camau bach i newid. Fodd bynnag, mae nifer fach o bobl o hyd sy’n credu nad yw’r cwicwlwm newydd yn mynd i ddigwydd, neu eu bod yn gallu gwneud beth maen nhw wedi bod yn ei wneud ers blynyddoedd gyda label newydd arno. Dw i ddim yn deall hynny. Cyfle yw hwn. Anrheg. Ewch amdani a’i wneud yn berthnasol i’ch dysgwyr a chithau. Os yw’r dull cyfunol yn codi ofn arnoch, beth am roi cynnig ar ddull thematig gydag adran arall a gofyn i’r dysgwyr beth maen nhw eisiau ei wneud gyda’r thema. Rhowch brosiectau a rolau gwahanol iddynt. Mae’n bosibl bod disgybl tawel iawn yn wych am gynhyrchu tocynnau neu ddylunio gwisgoedd. Efallai gallech gysylltu ag ysgol gynradd leol a chreu perfformiadau ar brosiectau Theatr mewn Addysg a allai gefnogi’r broses bonito neu’r MDPh Lles. Mae fy nghyd-weithiwr, Alex Hewitt, sy’n arbenigwr drama a dawns, ond sy’n gweithio fel Pennaeth Dros Dro TGAU a Safon Uwch y Cyfryngau, ac yn arwain datblygiad yr ysgol ym y Maes Dysgu a Phrofiadau Iechyd a Lles, yn enghraifft wych o rywun sy’n croesawu’r newid. “Mae addysgu’r cyfryngau yn CA3 yn wych i mi. Mae’r dysgwyr yn llawer mwy parod ar gyfer y cwrs TGAU ac mae’r gorgyffwrdd rhwng y Celfyddydau Mynegiannol ac Iechyd a Lles yn glir. Mae’r holl syniadau ar gyfer gweithdai Hwb wedi dod o’m profiad yn addysgu drama. Ni ddylai fod rhaniad rhwng y meysydd gwahanol, maen nhw’n ategu ei gilydd ac yn cydweithio.”

Beth bynnag rydych yn ei wneud yn eich ysgol, ceisiwch ei wneud yn gyffrous, i chi ac yn bwysicaf oll i’r bobl ifanc rydych yn eu meithrin.

Mae creadigrwydd gan bawb. Pa mor greadigol a dewr fyddwch chi wrth gyflwyno’r cwricwlwm newydd?

Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr e-bost

Amdanat ti
Are you a school teacher?
Ym mha iaith fyddai orau gennych i ni gysylltu â chi?