O hyn tan 5 Tachwedd byddwn yn cynnig cyfle i athrawon yn rhanbarth canol y de wella eu sgiliau, eu crebwyll neu eu hyder mewn meysydd dysgu neilltuol, drwy wneud cais am gael eu mentora gan Hyrwyddwr Celfyddydau.
System gost-effeithiol o arweiniad lled-adeiledig yw mentora yn ôl pa un mae un person yn rhannu ei wybodaeth, ei sgiliau a’i brofiad i roi cymorth i eraill wneud cynnydd
Mae mentora yn rhoi cyfle i chi fyfyrio, i ddatblygu eich ymwybod, eich gwybodaeth a’ch sgiliau, i roi gwerth ar y profiad sydd gennych a’i ddefnyddio’n sylfaen, ac i yrru yn ei flaen eich arfer dysgu tuag at nod personol a/neu gyfundrefnol cytûn.
Byddwch chi ar eich ennill o gael mentor a bydd tîm eich ysgol ar ei ennill hefyd. Bydd eich ysgol yn dangos ei hymroddiad i’r gweithlu a bydd eich cydweithwyr ar eu hennill o’r gyrchddulliau gwahanol a’r syniadau newydd y byddwch chi’n eu dwyn yn ôl i’ch gweithle.
Mewn rhai achosion, gall mentor hefyd gefnogi cydweithwyr eraill.
Rydym yn disgwyl y bydd mentoriaid yn cyfarfod eu mentoreion bob yn fis neu chwe wythnos drwy gydol y flwyddyn academaidd. Dylid trefnu oriau cyfarfod mewn oriau cyfnos pan fo’n gyfleus i’r mentorai a’r mentor ill dau.
Hanfod mentora yw eich cefnogi chi i gyrraedd nod neilltuol, felly mae gofyn i chi fod yn glir ac yn realistig ynghylch hyn. Gallai enghreifftiau gynnwys:
Athro a chanddo beth cefndir cerddorol ond heb arbenigedd canu sydd am feithrin sgiliau a hyder i arwain a sefydlu côr ysgol yn yr ysgol.
Neu
Cefnogi athro sydd heb fod yn y celfyddydau i weithio ar y cyd ag artistiaid a/neu gyfadran y celfyddydau i ddatblygu mwy o weithgaredd creadigol yn ei arfer yn yr ystafell ddosbarth.
Does dim gofyn i chi fod yn arbenigwr yn y celfyddydau, ond bydd gofyn i chi fod â nod mewn cof sy’n eich helpu i ddatblygu agwedd ar arfer yn y celfyddydau oddi mewn i’ch gwaith dysgu.
Bydd gofyn i chi gael cytundeb eich prifathro neu’ch tîm rheoli uwch cyn i chi gychwyn, er nad ydym yn disgwyl i’r sesiynau mentora ddigwydd yn ystod oriau ysgol.
Bydd gofyn i chi fod yn fodlon rhoi o’ch ‘oriau cyfnos’ ar gyfer eich mentora a/neu drefnu cyfarfodydd o gwmpas eich amserlen chi ac amserlen eich mentor.
Ni allwn dalu am staff cyflenwi i athrawon os bydd gofyn i chi fod allan o’r ystafell ddosbarth ar gyfer unrhyw sesiynau mentora.
Os ydi’r ddau’n falch o fynd ymlaen ar ôl y sgwrs gyntaf yma, bydd y berthynas fentora yn mynd yn ei blaen fel sy’n dilyn:
Bydd chwe chyfarfod yn dilyn dros y ddeufis nesaf o fewn ysbeidiau rheolaidd fel y cytunwyd yn ystod y cyfarfod cytundeb tan ddiwedd y cyfnod penodol.