Efallai’ch bod yn meddwl mai ein dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol neu danysgrifio i’n e-newyddion yw’r ffordd hawsaf o glywed y diweddaraf am gyfleoedd, hyfforddiant, cyngor ac ysbrydoliaeth. Mae’n ffordd dan gamp o roi cychwyn arni, ond gallwch wneud i A2:Clymu weithio’n well fyth i chi.
O greu cyfrif ar wefan A2:Clymu ac wedyn creu proffil a chanddo un rôl neu ragor (mae’n hawdd), byddwch ar eich ennill o allu:
Byddwn yn lansio gwasanaeth e-hysbys (yn yr haf, 2019). Gan ddefnyddio deheurwydd ein ap Cyfleoedd, fe ddaw cyfleoedd i law wedi’u seilio ar eich union ddiddordebau ac arbenigaethau. Ymgofrestrwch rhag blaen i ymorol eich bod yn eu cael cyn gynted ag y cân nhw’u lansio.
Gwasanaeth newydd yw hwn, heb fod run fath â’r e-newyddlen bresennol y byddwn yn ei rhedeg ochr yn ochr am dipyn eto.
Rhoi gwybod i artistiaid beth rydych ar ei drywydd drwy greu cyfle; neu weld a oes yna rywun sydd eisoes yn gwneud y tro i’r dim drwy chwilio yn y Cyfleoedd. Wedyn codi sgwrs dim ond o glicio botwm.
Rhoi gwybod i athrawon beth rydych yn ei gynnig a sut mae’n cyd-fynd â’r cwricwlwm drwy greu cyfle; neu weld a oes yna rywun sydd eisoes ar drywydd beth rydych yn ei gynnig drwy chwilio yn y Cyfleoedd. Wedyn codi sgwrs dim ond o glicio botwm.
Os ydych heb eto wneud hynny, cliciwch ar eich eicon personol ar dop y wefan ar y dde, clicio ‘Proffil’, sgrolio i lawr i ‘Caniatâd’ a chlicio ‘Cyhoeddi’. Cofiwch ymorol eich bod wedi ychwanegu’ch lleoliad hefyd. Cael gwybod rhagor yma.
Bingo! Rydych wedi creu cyfrif. Nawr y rhan bwysicaf. Bydd y rhan yma’n help i chi ymorol eich bod yn cael eich gweld gan y bobl iawn am y pethau iawn.
A dyna ni – pob hwyl yn cysylltu!
Ac os ydych heb eto ymgofrestru i e-newyddlen A2:Clymu cofiwch wneud hynny hefyd i gael cyngor ymarferol, ysbrydoliaeth a syniadau gan athrawon/greadigolion eraill, a manylion hyfforddiant a digwyddiadau AM DDIM a chyfleoedd eraill, yn syth i’ch blwch derbyn. Ac wrth reswm pawb dilynwch ni ar Facebook a Twitter i chi gael clywed yn syth am ddigwyddiadau, datblygiad proffesiynol parhaus a chyngor a gwybodaeth arall.