Bu pobol yn gofyn i ni’n union beth yw A2:Clymu, felly dyma bost blog i egluro beth wnawn ni, beth rydym yn sefyll drosto. Gobeithio y byddwch yn ei rannu â’ch cydweithwyr, eich ffrindiau a rhwydweithiau ehangach.
Rydyn ni i gyd yn A2: Clymu. Ni yw’r rhwydwaith o artistiaid, athrawon a phawb arall sy’n ymddiddori mewn hyrwyddo’r celfyddydau mewn addysg. Gallai hynny gynnwys hefyd: swyddogion addysg amgueddfeydd; addysgwyr orielau; rhieni; neu gyrff yn y celfyddydau, mewn treftadaeth neu ddiwylliannol.
Rhwydwaith o bobol ydyn ni sy’n rhannu cyfleoedd, gwybodaeth a chefnogaeth, i addysgu pobol ifanc yn greadigol.
Ymddiriedolaeth Actifyddion Artistig sy’n ein cefnogi ac yn ein gyrru ni, A2:Clymu. Pobol fel Dave Baxter a Bryony Harris.
Ein cenhadaeth yw tyfu’r rhwydwaith yma ohonon ni i gyd, fel ein bod yn cydweithredu fwy, ac yn gwneud gwahaniaeth go iawn.
Mae gan bawb gyfle.
Byddwn yn symbylu ein gilydd i rannu’r cyfleoedd hynny drwy:
Rydym yn ymorol am ranbarth canol de Cymru sy’n cynnwys: ardaloedd Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg. Rydym yn croesawu diddordeb ac ymglymu unrhyw un sy’n byw, yn gweithio ac yn creu yn yr ardaloedd hyn a’u cyffiniau.
Felly ymgofrestrwch i’r llythyr newyddion, ein dilyn a’n hoffi ni ar y cyfryngau cymdeithasol a meddwl ynghylch beth sydd gennych chi i’w gynnig i’r rhwydwaith!